ErrolEVANSHUGHES Vera Gwendolyn ac Owen Morgan 17.09.1932 - 28.03.2024 / 05.09.1930 - 04.08.2025
Dymuna Nest, Eifion a Guto ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli, Mam a Thad, Mam a Thad yng nghyfraith a Nain a Thaid annwyl iawn. Bu farw Vera, 28ain Mawrth 2024 yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Diolch i'r Parchedigion Christopher Prew, Hywel Edwards, Carwyn Siddall, Aled Lewis Evans ac Eric Greene am wasanaeth arbennig yn Festri Cefnddwysarn; Arweinydd y Gân, Arfon Williams ac Enid Evans, Organydd. Bu farw Owen, 4ydd Awst 2025 yng Nghartref Cefn Rodyn, Dolgellau. Diolch i'r Parchedig Carwyn Siddall am wasanaeth hyfryd yn Festri Cefnddwysarn; Arweinydd y Gân, Arfon Williams ac Enid Evans, Organydd. Diolch i'r Ymgymerwyr A.G. Evans a'I Feibion, Y Bala am wasanaeth trylwyr ac urddasol ac i'r cludwyr ddiwrnod angladd Mam a Dad. Cwmni Arlwylo Nia a'i thîm am luniaeth yn Neuadd Y Sarnau, blodau hardd Petalau Eleri. Diolch yn fawr am y rhoddion hael er cof am Mam tuag at; Capel Cefnddwysarn a Chronfa Offer Meddygol Y Bala ac er cof am Dad tuag at; Cartref Cefn Rodyn, Dolgellau. Diolch yn fawr iawn am bob gofal dderbyniodd Mam a Dad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates